Seilwaith CE&I ar gyfer Datgomisiynu SGHWR
Arferai’r Adweithydd Cynhyrchu Stem Dŵr Trwm (SGHWR) yn Winfirth allforio hyd at 100 MW o bŵer trydan i’r Grid Cenedlaethol, ac am lawer o flynyddoedd hwn oedd yr adweithydd mwyaf yn y Deyrnas Unedig a oedd yn cael ei oeri â dŵr. Mae bellach dan berchnogaeth yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA) ac yn mynd drwy'r broses ddatgomisiynu.
Gofynnwyd i Tenet ddylunio’r seilwaith CE&I er mwyn gallu datgomisiynu’r adweithydd SGHWR, sydd bellach yn ddi-danwydd, ac adeiladau cysylltiedig.
Y systemau CE&I a ddyluniwyd gan Tenet i gynorthwyo’r datgomisiynu oedd:
- Adeiladu cyflenwadau pŵer trydanol a chyflenwadau adeiladu dros dro.
- Goleuadau cyffredinol a goleuadau argyfwng
- Systemau larwm tân a chanfod tân.
- Systemau adrodd a chanfod radiometrig.
Roedd y problemau cysylltiedig â’r adeilad yn cynnwys:
- Seilwaith trydanol a etifeddwyd, i’w ystyried yn ystod prosesau cyfrifo llwythi a gosod.
- Presenoldeb asbestos a halogiad mewn ardaloedd penodol.
- Cydymffurfiaeth â rheoliadau CDM wrth osod seilwaith mewn adeiladau sy’n hŷn na’r ddeddfwriaeth CDM.
- Dylunio’r seilwaith i gefnogi trinwyr o bell sy’n defnyddio offer torri a’r gwaith o gynnal a chadw’r offer.
Gan ddefnyddio modelau 3D o’r adeilad, cynhyrchodd Tenet ddyluniadau manwl ar gyfer y systemau CE&I. Ymgysylltodd y tîm dylunio â’r cleient, rhanddeiliaid adeiladu a darparwyr offer yn ystod y broses hon er mwyn gallu cyflawni’r dyluniadau terfynol yn ddidrafferth a sicrhau proses osod ddiogel.
Modelodd Tenet y dyluniad goleuadau yn ReLux i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â deddfwriaeth goleuadau cyffredinol a goleuadau argyfwng, ac i ddarparu digon o olau ar gyfer gweithrediadau trin o bell. Dyluniwyd paneli dosbarthu golau i ganiatáu i’r gweithredwyr trin o bell gael rheolaeth lawn o’r goleuadau craidd yn ystod gweithgareddau datgomisiynu.
Modelwyd y seilwaith trydanol newydd ar gyfer y datgomisiynu yn Trimble a chynhyrchwyd lluniadau a dogfennau dylunio manwl, gan gynnwys cynlluniau, diagramau gwifro, diagramau sgematig, trefniadau cyffredinol y broses osod, manylebau caffael ac adroddiadau cyfrifo.
Yn wreiddiol, dyluniwyd cynllun yr adeilad o gwmpas y SGHWR, felly roedd yn cyflwyno heriau o ran mynediad personél, symud peiriannau mawr, llwybrau ceblau ac ardaloedd categori peryglus. Roedd y gallu i adeiladu yn ystyriaeth sylweddol yn ystod y broses ddylunio, gyda phwyslais ar osod, cynnal a chadw a dadadeiladu’r systemau CE&I yn ddiogel. Cafwyd trafodaethau rheolaidd gyda’r cleient a’r timau adeiladu i sicrhau bod deddfwriaeth CDM yn cael ei hystyried yn ystod pob cam o’r broses wrth ddethol a lleoli offer.
Gweithiodd Tenet mewn partneriaeth â rheolwyr rhaglen y cleient i adolygu a diweddaru’r rhaglen gyflawni wrth i’r rhaglen ddatblygu ac fe gyflwynodd yr holl ddogfennaeth i’r cleient ar amser.
Adolygodd a derbyniodd y cleient y deilliannau dylunio cyn i’r gwaith adeiladu ddechrau
Roedd llwyddiant y prosiect hwn yn ddibynnol ar annog amgylchedd gweithio cadarnhaol. Sefydlodd Tenet berthynas weithio dda gyda thîm y cleient, a arweiniodd at ddull cydweithredol ar gyfer prosiect heriol.
Trwy ddefnyddio peirianwyr â phrofiad a chymwysterau addas, llwyddodd Tenet i ddwyn ynghyd tîm prosiect a allai ddarparu’r dyluniad i’r cleient a sicrhau gwaith gosod a gweithrediad diogel.















