Gorsaf brosesu enfawr yn Sellafield

Crynodeb o'r prosiect

Dan y fframwaith Partneriaid Prosiectau a Rhaglenni (PPP), mae prosiect sylweddol ar waith ar safle Sellafield i adeiladu gorsaf brosesu newydd ar gyfer trin deunyddiau niwclear. Mae’r prosiect yn allweddol i gyflawni nod Sellafield Limited o liniaru’r risgiau sy’n gysylltiedig â storio deunyddiau niwclear yn y tymor hir.

Pan ddechreuodd Tenet ar y prosiect, roedd yr offer llinell brosesu yn nesáu at ddiwedd y cam gweithgynhyrchu, ac ar fin dechrau’r broses Profion Derbyn Ffatri (FAT) ac yna’r Profion Gwaith Integredig (IWT). Roedd yr offer i’w brofi yn cynnwys llinellau blwch menyg a ddefnyddir i wagio cynwysyddion presennol ac ail-becynnu’r cynnwys, ynghyd â chynhwysydd ar wahân i ddelio â’r offer y tu allan i gyfyngiant y cyfleuster blwch menyg. Cafodd yr offer ei weithgynhyrchu gan sawl cwmni gwahanol ac fe roddwyd yr offer ynghyd am y tro cyntaf yn y cyfleuster IWT.

Mae’r cyfarpar a osodwyd ar gyfer IWT yn cynnwys eitemau mecanyddol a CE&I, yn ogystal ag eitemau a chyflenwadau gwasanaethau a phrosesau. Roedd hefyd angen i’r cyfleuster IWT fod yn lleoliad i swyddfeydd, cyfleusterau lles ac ardaloedd storio at ddefnydd tîm comisiynu Sellafield yn ystod cyfnod yr IWT.

Penodwyd Tenet Consultants i weithredu fel yr integreiddiwr ar gyfer y gweithgareddau IWT, gan gasglu gwybodaeth gan dîm dylunio y Partneriaid Prosiectau a Rhaglenni (PPP) a gweithgynhyrchwyr offer er mwyn cyflenwi pecynnau dogfennau i’r contractwyr IWT i’w galluogi i osod, cydosod ac integreiddio yr offer yn barod i’w trosglwyddo i dîm comisiynu Sellafield, a gyflawnodd yr IWT yn dilyn hynny.

Wrth i waith yr IWT fynd rhagddo, dyfarnwyd cwmpas ychwanegol i Tenet Consultants i ddarparu adnoddau peirianneg i’r prosiect er mwyn ymgymryd â thasgau a ohiriwyd a thasgau newydd. Roedd cwblhau’r rhain yn hanfodol o ran yr IWT a’r broses o osod ar y safle yn y pen draw.

Atgynhyrchodd yr IWT yr amodau ar y safle yn ofalus, felly roedd y gwaith a wnaeth Tenet Consultants i hwyluso’r broses o osod ar gyfer IWT yn y pen draw o fudd i’r cleient terfynol pan osodwyd yr offer yn yr adeilad prosesu ar safle Sellafield.

 

Gwasanaethau

I fodloni anghenion y prosiect, mae Peirianwyr Tenet wedi defnyddio eu sgiliau a phrofiad helaeth i ddatblygu’r meysydd technegol canlynol:

Gweithgareddau Mecanyddol

  • Gwnaeth adolygiad annibynnol o dîm dylunio’r PPP gynhyrchu dogfennaeth benodol i’r safle, megis datganiadau o’r dull gosod, i ddethol y wybodaeth angenrheidiol i gynhyrchu cyfarwyddiadau a dogfennaeth a oedd yn benodol i’r cyfleuster IWT
  • Cynhyrchu pecynnau cyfarwyddiadau at ddefnydd y contractwr IWT ar gyfer y gwaith gosod ac integreiddio
  • Cynhyrchu lluniadau trefniant cyffredinol offer, i’w defnyddio yn y cyfleuster IWT ac yn dilyn hynny ar gyfer y gwaith gosod terfynol ar y safle, gan ddefnyddio systemau Vault ac Autodesk Inventor y prosiect
  • Adolygiad annibynnol o wybodaeth a ddarparwyd gan PPP i amlygu unrhyw brinder gwybodaeth a fyddai’n rhwystro neu atal y contractwr IWT rhag cyflawni eu gweithgareddau gosod ac integreiddio
  • Ar gais gan y PPP, ymgymryd â’r gweithgareddau dylunio mecanyddol a oedd yn angenrheidiol i fynd i’r afael â’r meysydd prinder.
  • Adolygu sawl ffynhonnell wybodaeth er mwyn cynnal adolygiadau manwl o’r cyfanswm goddefiant ar gyfer cydosodiadau mawr o offer mecanyddol, fel sail i gynllun y cyfleuster IWT a dyluniad adeilad yr orsaf brosesu ar y safle
  • Dylunio mecanyddol ar gyfer offer IWT penodol, gan ddyblygu swyddogaeth offer penodol ar gyfer y safle

Cynnal cyswllt rhwng y tîm dylunio, gweithgynhyrchwyr a chontractwyr IWT

  • Ateb ymholiadau gan gontractwyr IWT
  • Adolygu dogfennaeth y prosiect gyda thîm dylunio y PPP i sicrhau bod y bwriad dylunio wedi’i ddogfennu, ei ddeall, a’i atgynhyrchu mewn dogfennaeth benodol i’r IWT
  • Ymweld â gweithgynhyrchwyr i gasglu gwybodaeth ar becynnu, trin, codi ayyb.

Rhai o gyflawniadau cysylltiedig y prosiect:

  • Trefniant cyffredinol a lluniadau manwl
  • Datganiadau Amlinellol o’r Dulliau Gosod penodol i IWT
  • Dogfennaeth i gofnodi’r bwriad dylunio ar gyfer gosod i’r IWT ac ar safle
yr her

Gan ymuno â’r prosiect yn ystod cam allweddol o’i gylch bywyd, gweithiodd Tenet drwy gam heriol yn y prosiect mewn cyfnod byr, gan fynd ati ar unwaith i gynnig estyniad di-dor i alluoedd peirianneg ein cleient, a hynny wrth feithrin a chynnal cysylltiadau gyda pheirianwyr a darparwyr ein cleientiaid, wyneb yn wyneb ac o bell gan ddefnyddio platfform Microsoft Teams.

Pan ddechreuodd Tenet ar y gwaith, roedd y broses o weithgynhyrchu’r offer llinell broses bron wedi’i gwblhau ac roedd ar berchnogion y cyfleuster IWT angen gwybodaeth yn brydlon fel y gallai’r offer gael ei osod yn y cyfleuster IWT heb effeithio ar raglen y prosiect.

Ein datrysiad

Darparodd Tenet adnoddau Mecanyddol i fodloni gofynion y cleient, gan ddefnyddio Unigolion â Phrofiad a Chymwysterau Addas (SQEP) i sicrhau cywirdeb, effeithlonrwydd, diogelwch ac uniondeb dyluniadau a gwybodaeth.

Trwy gynnwys Tenet, darparwyd y pecynnau gwybodaeth cydweddol a’r gofynion dylunio angenrheidiol i’r cleient er mwyn diwallu’r amcanion o gyflwyno llinell broses integredig i Sellafield Comissioning ar gyfer IWT.

Y canlyniad

Aeth Tenet ati i gynhyrchu, casglu a darparu gwybodaeth angenrheidiol ar gyfer cydosod, gosod ac integreiddio offer y broses i alluogi Profion Gwaith Integredig, a hynny wrth feithrin a chynnal cysylltiadau gweithio cadarn â’n cleientiaid a’u hisgontractwyr.

Darparodd Tenet werth ychwanegol i’n cleient drwy gynnal adolygiadau annibynnol o ddogfennau a gynhyrchwyd yn ystod y prosiect, gan nodi meysydd lle’r oedd angen gwybodaeth ychwanegol er mwyn rhoi’r Profion Gwaith Integredig (IWT) at ei gilydd yn llwyddiannus, a chyflawni’r tasgau peirianneg angenrheidiol i gwblhau’r pecynnau gwybodaeth.

Yn y pen draw, fe wnaeth y gwaith a gyflawnodd Tenet ar gyfer yr IWT hwyluso’r broses o osod ar y safle drwy sicrhau bod y cyfarwyddiadau trin, cydosod, gosod ac integreiddio yn cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol ar gyfer gosod y cyfarpar yn ddiogel ac yn effeithlon.

Gyda phrosiect mewn golwg?

Dewch i ni weithio gyda’n gilydd.

Dewch i ni weithio gyda’n gilydd