Uwchraddio goleuadau a goleuadau argyfwng
Dangosodd asesiad o’r goleuadau a’r goleuadau argyfwng mewn cyfleuster storio ar safle’r cleient fod nifer sylweddol o’r ffitiadau golau wedi methu.
Y ffordd symlaf o ddelio â goleuadau sydd wedi methu yw gosod ffitiadau newydd yn lle’r goleuadau presennol. Fodd bynnag, oherwydd materion a ganfuwyd yn yr adeilad, nid oedd hyn yn ymarferol ym mhob achos.
Roedd problemau cysylltiedig â’r adeilad yn cynnwys:
• Presenoldeb deunyddiau a oedd yn cynnwys asbestos ym mhob nenfwd, bron
• Cyfyngiadau switsio ar waith ar gyfer rhai o’r byrddau dosbarthu
O ganlyniad, gofynnodd y cleient i gael golau newydd a golau argyfwng newydd wedi eu gosod drwy’r adeilad ac yn dilyn hyn, byddai’r system bresennol yn cael ei hynysu a’i gadael lle’r oedd hi.
Y manylion a nodwyd ar gyfer y gwaith oedd dyluniad amlinellol ac adolygiad adeiladwyedd gyda pheirianneg system safle, ac ar ôl iddo gael ei gymeradwyo byddai’n cael ei ddilyn gan ddyluniad manwl ar gyfer gosod y systemau goleuadau newydd a systemau goleuadau argyfwng newydd.
I ddechrau arni, ymgymerodd Tenet ag adolygiad bwrdd gwaith ac fe nododd/lleolodd gyfres o luniadau cofnod perthnasol er mwyn cynnal arolwg yn y meysydd perthnasol a naill ai gwirio’r wybodaeth o’r lluniadau cofnod neu dynnu sylw, yn ôl y gofynl. Yn dilyn yr arolwg, cynhaliwyd astudiaeth i gymharu opsiynau er mwyn gwerthuso perfformiad nifer o fathau o ffitiadau goleuadau gan ddefnyddio meddalwedd cyfrifo DIALux. Drwy ddefnyddio’r feddalwedd hon, gellir modelu sefyllfaoedd goleuo yn realistig a’u haddasu i gynrychioli amodau safle yn fanwl gywir. Cafodd canlyniadau’r cyfrifiadau eu dogfennu mewn adroddiad, yn ogystal â meini prawf perthnasol eraill fel costau, adeiladwyedd a gallu i gynnal a chadw. Cafodd manteision ac anfanteision pob opsiwn eu hasesu mewn perthynas â’r meini prawf a chyflwynwyd y datrysiadau a ffefrid i randdeiliaid ar gyfer eu cymeradwyaeth.
Yn dilyn cymeradwyaeth, cafodd Tenet y dasg o ymgorffori’r datrysiadau dewisol mewn amcanion dylunio a allai gael eu defnyddio gan y contractwr gosod yn ystod y cam adeiladu. Yn y pecyn dylunio hwn, roedd amrywiaeth eang o ddogfennau a lluniadau technegol, gan gynnwys diagramau sgematig ar gyfer y gwifro, trefniadau gosod a datganiad dull gosod amlinellol. Cafodd yr amcanion hyn eu cyflwyno i’r cleient yn rheolaidd i ddangos cynnydd ac i sicrhau bod rhanddeiliaid yn fodlon.
Yn ystod y cam adeiladu, darparodd Tenet gefnogaeth i’r contractwr gosod drwy ymateb i unrhyw ymholiadau technegol gan ddefnyddio system TQ ffurfiol y cleient.

Gan na all adeilad weithredu heb system goleuadau argyfwng sy’n gweithio yn ei lle, a gan fod y system bresennol wedi dangos arwyddion ei bod yn methu, roedd rhaid i’r broses o ddylunio a gosod y system newydd gael ei chwblhau o fewn terfyn amser tynn. Roedd hyn yn gofyn am ddyddiadau cerrig milltir allweddol cytunedig cyn i’r prosiect ddechrau ac adolygiadau cynnydd rheolaidd i sicrhau bod y cyflawniadau yn cael eu cyflwyno i’r cleient ar amser.
Cyflwynodd Tenet yr holl ddogfennaeth i’r cleient ar amser. Daeth adolygiad o’r dyluniad lle’r roedd rhanddeiliaid yn bresennol i’r casgliad fod y dyluniad yn cynnig gwerth am arian. Fodd bynnag, nid yw’r ‘Arbedion Cost’ sy’n gysylltiedig â’r prosiect hwn o reidrwydd i’w hystyried o safbwynt arbedion ariannol yn unig, ond hefyd o safbwynt barn gyhoeddus a gwleidyddol. Yn y DU, mae’r gyfraith bresennol yn ei gwneud hi’n orfodol i bob adeilad preswyl fod â goleuadau argyfwng digonol yn eu lle i alluogi ffordd allan ddiogel os yw’r prif gyflenwad trydan yn cael ei golli. Gallai goleuadau argyfwng annigonol arwain at unigolion yn methu â gadael adeilad yn ddiogel a gallai gael canlyniadau tyngedfennol. Felly, mae system goleuadau argyfwng sy’n addas i’r pwrpas yn gwbl angenrheidiol ar gyfer unrhyw berchennog adeilad masnachol/diwydiannol.
Mae Tenet wedi cefnogi’r cleient drwy gydol cylch bywyd y prosiect, o”r cysyniad i’r cam gosod. Drwy ymgysylltu â rhanddeiliaid drwy gydol y broses ddylunio, mae Tenet wedi sicrhau boddhad cwsmeriaid. Roedd llwyddiant y prosiect hwn yn ddibynnol ar annog amgylchedd gweithio cydweithiol. Drwy ddefnyddio peirianwyr profiadol a chymwys, roedd Tenet yn gallu dwyn ynghyd tîm prosiect a allai ddarparu’r gwerth mwyaf posibl i’r cleient.







































