Adfer a chludo tanwydd
Yn y gorffennol, mae gwaith sylweddol wedi cael ei wneud yn Dounreay, i archwilio’r ffordd orau o reoli deunyddiau Tanwydd Arbelydredig Amrywiol (MIF), ers i weithrediadau ailbrosesu ddod i ben ar safle Dounreay yn 1996.
O ganlyniad, penderfynwyd yn flaenorol y gallai deunydd MIF sy’n parhau heb ei brosesu gael ei storio, am y tro, ar safle Dounreay nes y byddai storfa neu gyfleuster gwaredu arall yn y DU yn dod ar gael. Ers hynny, mae’r safbwynt strategol wedi newid yn unol â pholisi Llywodraeth y DU, ac yn 2013 cyhoeddodd yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA) yr opsiynau mwyaf credadwy a’r rhai yr oedd yn eu ffafrio ar gyfer rheoli’r deunyddiau MIF yn y tymor hir, sef – bryd hynny a hyd heddiw – symud y deunydd MIF i safle Sellafield. Prif fwriad y rhaglen IF yw tynnu ymaith, pecynnu a chludo deunyddiau MIF Dounreay i Sellafield er mwyn gallu rheoli’r deunydd yn ddiogel dros y tymor hwy.
Penodwyd Tenet gan y Prif Ddylunwyr (Cavendish Nuclear) i gynghori a chynorthwyo â’r broses o lunio Delliannau Dyluinio Cynllun ar gyfer gwaith Mecanyddol a Thrydanol y Prosiect Trin Mecanyddol heriol hwn.
I fodloni anghenion y prosiect, mae Peirianwyr Tenet wedi defnyddio eu sgiliau a phrofiad helaeth i ddatblygu’r meysydd technegol canlynol:
Gweithgareddau Mecanyddol
- Llunio Deilliannau Dylunio Cynllun Mecanyddol ar gyyfer y Fflasgiau Cludo, Bogi Mewnforio / Allforio, Peiriant Codi Caeadau.
Gweithgareddau CE&I
- Adolygu’r dyluniad Cysyniad i amlygu bylchau a meysydd sy’n codi pryder.
- Llunio deilliannau Systemau Rheoli, megis Athroniaeth Reoli, S&IDDs, Manylebau Dylunio Swyddogaethol (FDS) SCADA, Manyleb System Tracio Tanwydd.
- Cynhyrchu Dyluniad RSI (Radiometreg ac Offer Arbenigol), gan gynnwys Cynlluniau a Llwybrau Ceblau.
- Llunio Deilliannau Gwasanaethau Adeiladu, megis Rhestrau Llwythi a Cheblau, Manyleb CCTV, a Chyfrifiadau Ceblau a Chynlluniau.
Rhai o gyflawniadau cysylltiedig y prosiect:
- Lluniadau manwl a threfniant cyffredinol
- Amserlenni ac Adroddiadau Cynnydd
Gan ymuno â’r prosiect yn ystod cam allweddol o’i gylch bywyd, gyda chyfyngiadau heriol o ran costau a chyllideb, llwyddodd Tenet i ymdrin â cham heriol yn y prosiect mewn cyfnod byr, gan ddechrau ar y gwaith ar unwaith, er mwyn darparu estyniad di-dor i alluoedd peirianneg ein cleient, a hynny wrth feithrin a chynnal cysylltiadau gyda pheirianwyr a darparwyr ein cleientiaid, wyneb yn wyneb ac o bell gan ddefnyddio platfform Microsoft Teams.
Oherwydd natur anghysbell y cyfleuster a gan fod tîm y cleient ar wasgar, roedd Tenet yn allweddol wrth ddarparu datrysiad dylunio integredig gyda CE&I yn gweithio’n agos gyda’r tîm Mecanyddol mewnol a thimau galluoedd Radiometreg a Pheirianneg y cleient er mwyn cynnig pecyn dylunio cynllun llawn i alluogi cyfnodau cadarn o waith yn y dyfodol.
Darparodd Tenet adnoddau Mecanyddol a CE&I o lefel Prentis i Reolwyr Peirianneg er mwyn diwallu gofynion y cleient, gan ddefnyddio Unigolion â Phrofiad a Chymwysterau Addas (SQEP) i sicrhau cywirdeb, effeithlonrwydd, diogelwch ac uniondeb dyluniadau a gwybodaeth.
Trwy benodi Tenet, darparwyd y pecynnau gwybodaeth cydweddol a’r deilliannau dylunio angenrheidiol i’r cleient er mwyn ddiwallu’r amcanion o gyflwyno Dyluniad Cynllun cadarn ar gyfer y cyfleuster.
Tenet oedd yn gyfrifol am gynhyrchu, adolygu a darparu y wybodaeth angenrheidiol ar gyfer dylunio cynllun cyfleuster, wrth feithrin a chynnal cysylltiadau gweithio cryf gyda’n cleient a’i gwsmeriaid.
Darparodd Tenet werth ychwanegol i’n cleient drwy gynnal adolygiadau annibynnol o ddogfennau a gynhyrchwyd yn ystod prosiect, gan nodi meysydd lle’r oedd angen gwybodaeth ychwanegol er mwyn datblygu’r Dyluniad Cynllun, ac ymgymryd â’r tasgau peirianneg angenrheidiol i gwblhau’r pecynnau gwybodaeth.















