
Rydym wedi ymrwymo i ddatrysiadau arloesol er mwyn creu effaith amgylcheddol barhaus
Mae cynaliadwyedd yn egwyddor hollbwysig sy’n integreiddio ystyriaethau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol i bob agwedd o weithrediadau Tenet. Mae hyn yn cynnwys dylunio systemau sy’n effeithlon o ran ynni, cynhyrchu cyn lleied o wastraff â phosib, a sicrhau rheolaeth ddiogel a chyfrifol dros ddeunyddiau drwy gydol eu cylch bywyd. Yn Tenet, rydym yn mabwysiadu technolegau i wella effeithlonrwydd, lleihau allyriadau carbon, a chefnogi dichonoldeb hirdymor ein prosiectau. Mae hyrwyddo diwylliant o ddiogelwch, cydymffurfiaeth rheoliadol a thryloywder yn sicrhau bod y prosiectau hyn yn cael yr effaith leiaf bosibl ar yr amgylchedd a chymunedau lleol. Trwy feithrin arloesedd a chydweithrediad, gallwn gyfrannu at broses trawsnewid ynni y DU a chynnal ymrwymiad cadarn i gynaliadwyedd ar yr un pryd.
Rydym yn cefnogi esblygiad y sector niwclear drwy ymgorffori arferion cynaliadwy yn ein holl brosiectau
Mae cynaliadwyedd yn y diwydiant niwclear yn allweddol o ran sicrwydd ynni hirdymor. Mae Tenet yn cefnogi’r broses o symud tuag at ynni cynaliadwy drwy gyfrannu at brosiectau niwclear sy’n lleihau allyriadau ac yn sicrhau pŵer sy’n cael ei gynhyrchu’n ddiogel ac yn ddibynadwy.
Mae ein profiad o ddatgomisiynu niwclear, ffabrigo niwclear, a phrosiectau safleoedd newydd yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ddatblygu’r sector niwclear mewn modd diogel a chynaliadwy.


