Argraffu 3D

Argraffu 3D

Yn Tenet, rydym yn gweithredu labordy pwrpasol gweithgynhyrchu haen-ar-haen sy'n cefnogi'r sectorau niwclear ac ynni gyda datrysiadau cyflym, manwl-gywir a chost-effeithiol.

Mae ein cyfleuster yn cynnwys nifer o argraffwyr aml-ddeunydd, fformat-mawr o’r radd flaenaf gyda chyfeintiau adeiladu hyd at 320 × 320 × 400 mm.

Yn rhedeg 24/7, mae’r systemau hyn yn darparu cydrannau tra-chywir (manwl-gywirdeb ±0.02 mm) ac yn ei gwneud hi’n bosib cynhyrchu rhannau un-darn sylweddol neu gydosodiadau adrannol yn gyflym, gan sicrhau bod prosiectau hollbwysig yn cael eu cwblhau’n brydlon.

Deunyddiau: Gallwn argraffu gydag ystod eang o bolymerau uwch, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i): PLA, PETG, ABS, ASA, PA (Nylon), PC (Polycarbonad), TPU (hyblyg), a CFRP (deunyddiau cyfansawdd wedi’u cyfnerthu â ffeibr carbon), yn ogystal â metel, a deunyddiau wedi’u cyfnerthu â ffeibr gwydr i sicrhau lefel uwch o gryfder a gwrthiant tymheredd. (Deunyddiau a phrosesau ychwanegol ar gael wrth i ni barhau i ddatblygu ein gallu).

Gwasanaethau Argraffu 3D

Uchafbwyntiau Technegol:
  • Manwl-gywirdeb: ±0.02 mm gyda chydraniad haenau i lawr i 0.1 mm

  • Trwybwn: gweithredu 24/7 er mwyn cyflawni’n gyflym.

  • Llif gwaith: Piblinell sganio-i-argraffu lawn er mwyn atgynhyrchu rhannau ffisegol yn ddigidol ac integreiddio CAD yn esmwyth.

  • Cyfaint Adeiladu Mawr: Cydrannau ar gael hyd at 320 × 320 × 400 mm gyda’r gallu i argraffu 360mm ciwbiedig.

Mae gweithgynhyrchu haen-ar-haen yn ein galluogi i gywasgu’r cylch dylunio, gan ddarparu ailadroddiadau cyflym, cost-isel sy’n arbed amser ac arian. Mae’r dull hwn yn:

  • Lleihau’r cyfnod dylunio-i-gynhyrchu
  • Lleihau ail-wneud a gwastraff
  • Gwella ansawdd ac yn cyflawni datrysiadau cywir y tro cyntaf

Mae ein modelau wrth raddfa yn adnoddau grymus ar gyfer cyfathrebu a chynllunio. Maent yn:

  • Helpu i esbonio systemau cymhleth i randdeiliaid annhechnegol
  • Cefnogi gosodiad, cyfluniad ac adolygiadau HAZOP
  • Cynnig cymorth o ran delweddu a hyfforddiant
  • Helpu i gynllunio a chyfathrebu gweithdrefnau gosod neu gynnal a chadw

Gan ddefnyddio sganio 3D, gallwn:

  • Atgynhyrchu cydrannau darfodedig neu unigryw sydd â geometreg gymhleth
  • Cyflawni manwl-gywirdeb ailadroddadwy hyd at ±0.02 mm
  • Darparu rhannau yn gyflymach na llwybrau gweithgynhyrchu traddodiadol
  • Leihau amser di-fynd a chynnal seilwaith hanfodol

Oes gennych chi brosiect mewn golwg?

Dewch i ni weithio gyda’n gilydd.

Dewch i ni weithio gyda’n gilydd