Dylunio system larwm tân
Roedd cleient mawr yn y DU wedi penderfynu, yn sgil digwyddiad Tŵr Grenfell, fod angen i'w holl systemau larwm tân newydd a rhai fyddai'n cael eu huwchraddio gael eu dylunio gan ddylunwyr achrededig trydydd parti.
Gan gydnabod Tenet Consultants fel contractwr EC&I sydd wedi’i achredu gan BAFE ac wedi cyflawni nifer o brosiectau tân yn llwyddiannus, cysylltodd y cleient â Tenet Consultants i ddarparu’r dyluniadau drwy gyfrwng eu dylunwyr enwebedig a gaiff eu hasesu a’u hachredu’n annibynnol drwy’r cynllun BAFE SP203-1.
- Cynnal gwaith sylweddol mewn safleoedd â gwaith adnewyddu a safleoedd a adeiladwyd o’r newydd.
- Cynnal adolygiadau o ddyluniad FA ar gyfer cwmnïau nad ydynt wedi’u hachredu.
- Cynnal asesiadau rhagarweiniol cyn dyluniad manwl i ddarparu datrysiadau arloesol.

Mae gosod larymau tân ar adeiladau presennol a chyfnewid systemau larymau tân diangen am systemau modern hollol ganfyddadwy yn heriol yn amgylchedd y safle
Roedd y gwaith o uwchraddio hen systemau larwm tân ar draws cyfleusterau presennol yn cyflwyno heriau technegol a logistaidd sylweddol.
Roedd llawer o’r systemau a oedd yno eisoes wedi cael eu gosod ddegawdau yn ôl yn uniongyrchol yn ffabrig yr adielad.
Roedd opsiynau gwifredig traddodiadol yn lle’r systemau oedd yno eisoes yn gostus a hefyd yn broblemus i’w gosod yn sgil y ceblau niferus o fewn llwybrau a chyfyngiadau caeth o ran drilio a chreu treiddiadau newydd.
Yn ogystal, roedd rhaid i unrhyw system newydd ystyried gofynion gweithredol y safle a’r effaith ar drefniadau achos ac effaith cyfredol.
Aeth Tenet ati i ddwyn ynghyd tîm o beirianwyr â chymwysterau a phrofiad addas a ‘Dylunwyr Enwebedig’ ag achrediad BAFE i arwain y prosiect o’r cam cysyniad i’r dyluniad manwl a chefnogaeth yn ystod y cam gosod a chomisiynu.
Roedd ein tîm wedi cael hyfforddiant arbenigol mewn technolegau uwch, gan gynnwys systemau larwm tân a weithredir gan radio, a oedd yn golygu bod modd i’r gosodiadau osgoi cyfyngiadau seilwaith gwifredig.
Gwnaethom hefyd gyflwyno systemau VESDA (Very Early Smoke Detection Apparatus), gan ddefnyddio gwifrau cadwynol ar gyfer gwaith pibellau sampl i osgoi gorfod gosod ar do strwythur, ynghyd â’r systemau diweddaraf sy’n canfod â phelydr neu’n canfod â fideo – wedi’u dylunio i oresgyn rhwystrau sy’n codi yn sgil haenau.
Gan gydnabod yr angen am arloesedd, cysylltodd Tenet ag arbenigwyr â phrofiad y tu hwnt i’r sector niwclear, i ddod â set sgiliau ehangach i’r prosiect. Gwnaethom gydweithio’n agos â chyflenwyr, cynnal arolygon signal radio manwl, a chynnal gwaith trylwyr ar opsiynau i sicrhau bod y datrysiadau a ddewiswyd yn addas o ran cyfyngiadau technegol, gweithredol ac adeiladwyedd y safle.
Drwy gyflwyno technolegau newydd a manteisio ar sgiliau arbenigol, llwyddodd Tenet i ddylunio a chefnogi’r gwaith o osod systemau larwm tân a oedd yn cydymffurfio, yn effeithlon ac yn tarfu cyn lleied â phosib ar strwythur adeiladau.
Roedd ein dull yn sicrhau lleihad sylweddol mewn costau ofer yn y camau cynnar drwy ddiystyrru technolegau anaddas a chanolbwyntio ar ddatrysiadau dichonadwy yn unig.
Aethom ati i ddatblygu dealltwriaeth glir a chynhwysfawr o anghenion y cleient, ac roedd hynny’n ein galluogi i ddarparu system a oedd yn diwallu anghenion diogelwch a gweithredol.
Drwy gydol y prosiect, parhaodd Tenet i feithrin perthynas gydweithio gyda rhanddeiliaid a chyflenwyr er mwyn archwilio a defnyddio’r arloesiadau diweddaraf, gan sicrhau bod y datrysiad terfynol yn addas ar gyfer y dyfodol ac yn cael ei integreiddio’n ddidrafferth i amgylchedd presennol y safle.
