Datgomisiynu niwclear

Technoleg

Datrysiadau arloesol ar gyfer datgomisiynu niwclear yn ddiogel ac effeithlon

Gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiant dadgomisiynu niwclear, mae Tenet yn dod ag arbenigedd ac arloesedd i rai o’r prosiectau mwyaf cymhleth a hanfodol o ran diogelwch yn y sector.

Rydym yn arbenigo mewn darparu atebion peirianneg wedi’u teilwra ar gyfer dadhalogi, datgymalu, rheoli gwastraff ac adfer safleoedd, gan sicrhau cydymffurfiaeth reoliadol lawn a’r safonau diogelwch uchaf.

Mae ein tîm amlddisgyblaethol yn cyfuno gwybodaeth ddofn am y diwydiant â thechnoleg i gefnogi cleientiaid trwy bob cam o gylchred bywyd datgomisiynu, o’r cynllunio cychwynnol i glirio’r safle yn derfynol.

Arbenigedd

Gwerth degawdau o arbenigedd mewn prosiectau datgomisiynu niwclear

Yn Tenet, mae gennym ddegawdau o arbenigedd mewn datgomisiynu niwclear, ar ôl gweithio ar brosiectau cymhleth sy’n cynnwys cau a datgomisiynu cyfleusterau niwclear yn ddiogel.

Mae ein tîm profiadol yn fedrus wrth reoli’r heriau technolegol, rheoleiddiol, a diogelwch sydd ynghlwm â datgomisiynu, gan sicrhau bod pob prosiect yn cael ei gynnal yn effeithlon ac i’r safonau uchaf.

Mae ein harbenigedd yn ymwneud ag amryw o weithgareddau datgomisiynu, gan gynnwys cydymffurfiaeth reoliadol, cael gwared ar wastraff, a glanhau’r cyfleuster. Rydym yn gweithio’n agos â chleientiaid i ddatblygu datrysiadau datgomisiynu pwrpasol sy’n sicrhau’r diogelwch gorau, lleihau effaith amgylcheddol, ac yn cydymffurfio â deddfwriaeth ac arferion gorau’r diwydiant.

Profiad

Profiad diamheuol o gyflawni prosiectau datgomisiynu llwyddiannus

Mae gan Tenet hanes diamheuol o gyflawni prosiectau datgomisiynu niwclear llwyddiannus ar draws sawl sector, gan gynnwys amddiffyn a chynhyrchu pŵer.

Mae ein cyfranogiad nid yn unig yn cynnwys y camau cynllunio a dylunio ond hefyd yn cefnogi gweithredu gweithgareddau datgomisiynu, gan sicrhau bod pob prosiect yn bodloni’r safonau diogelwch, amgylcheddol a rheoleiddiol uchaf.

Gyda phrofiad ymarferol o reoli prosiectau datgomisiynu ar raddfa fawr, rydym yn deall y cymhlethdodau sydd ynghlwm ac yn cynnig datrysiadau ymarferol i’r sefyllfa. Mae ein hagwedd yn sicrhau bod prosiectau’n cael eu cwblhau’n ddiogel, yn brydlon, ac o fewn cyllideb, gan gyfrannu at yr ymdrech fyd-eang i leihau ôl troed amgylcheddol y diwydiant niwclear.

Adeilad diwydiannol mawr gyda thu allan glas a gwyn, wedi'i leoli ymhlith glaswellt, llwyni a choed o dan awyr glir. Mae'r safle wrthi'n cael ei ddadgomisiynu sghwr fel rhan o waith rheoli cyfleusterau parhaus.

Oes gennych chi brosiect mewn golwg?

Dewch i ni weithio gyda’n gilydd.