Technolegau ynni adnewyddadwy arloesol ar gyfer dyfodol cynaliadwy
Rydym yn canolbwyntio ar integreiddio technolegau ynni adnewyddadwy i’n datrysiadau peirianneg, gan gyfrannu at y broses o symud tuag at ddyfodol carbon isel. Mae ein harbenigedd mewn ynni adnewyddadwy yn cwmpasu solar, gwynt a storio ynni. Mae ein technoleg ffabrigo tanwydd niwclear yn canolbwyntio ar gynhyrchu cydrannau tanwydd niwclear safon uchel ar gyfer adweithyddion, gan sicrhau perfformiad, diogelwch ac effeithlonrwydd. Trwy ddefnyddio technolegau o’r radd flaenaf, ein bwriad yw gwella’r broses o ffabrigo tanwydd, gan ei gwneud hi’n bosib cynhyrchu cydosodiadau tanwydd mwy diogel a mwy effeithlon ar gyfer cynhyrchu pŵer, amddiffyn ac adweithyddion ymchwil.
Mae Tenet yn parhau’n ymroddedig i ddatblygu’r technolegau a ddefnyddir mewn cynhyrchu tanwydd niwclear. O uwch brofi deunyddiau i’r diweddaraf mewn dylunio cydosodiad tanwydd, rydym yn cyfuno datrysiadau arloesol er mwyn sicrhau bod ein cynhyrchion tanwydd yn diwallu safonau uchaf diogelwch ac effeithlonrwydd y diwydiant.
Arbenigedd rhagorol mewn systemau a dyluniadau ynni adnewyddadwy
Gyda phrofiad helaeth mewn peirianneg ynni adnewyddadwy, mae tîm Tenet yn fedrus mewn dylunio, gweithredu, ac optimeiddio systemau ynni adnewyddadwy i amrywiaeth eang o ddiwydiannau.
Mae ein harbenigwyr ynni adnewyddadwy yn gweithio’n gydweithredol â chleientiaid i ddatblygu datrysiadau ynni pwrpasol sy’n bodloni eu hanghenion penodol, gan sicrhau’r enillion mwyaf posibl ar fuddsoddiad ac effeithlonrwydd gweithredol hirdymor. O astudiaethau dichonoldeb i osod a dylunio systemau, mae arbenigedd Tenet yn sicrhau bod prosiectau’n cael eu cyflawni i’r ansawdd orau ac i safonau cynaliadwyedd.
Llwyddiant diamheuol mewn cyflawni prosiectau ynni adnewyddadwy
Mae gan Tenet hanes diamheuol o gyflawni prosiectau ynni adnewyddadwy llwyddiannus, yn amrywio o systemau ynni solar a gwynt i ddatrysiadau storio ynni. Mae ein cyfranogiad yn y prosiectau hyn yn ymwneud â dylunio cynnar ac astudiaethau dichonoldeb hyd at osod ac optimeiddio parhaus y systemau, gan sicrhau bod pob gosodiad yn bodloni’r safonau uchaf o ran diogelwch, perfformiad, a chynaliadwyedd.
Gyda phrofiad ar draws sawl sector, rydym yn deall yr heriau sydd ynghlwm â rhoi ynni adnewyddadwy ar waith ac yn cynnig datrysiadau ymarferol a phwrpasol i’r sefyllfa. Mae profiad ymarferol ein tîm o gyflawni prosiectau ynni adnewyddadwy yn cynorthwyo cleientiaid i gyrraedd eu nodau ynni a chyfrannu at ddyfodol cynaliadwy.

Seilwaith CE&I ar gyfer Datgomisiynu SGHWR
