Datrysiadau arloesol ar gyfer datgomisiynu niwclear yn ddiogel ac effeithlon
Rydym yn canolbwyntio ar integreiddio technolegau ynni adnewyddadwy i’n datrysiadau peirianneg, gan gyfrannu at y broses o symud tuag at ddyfodol carbon isel. Mae ein harbenigedd mewn ynni adnewyddadwy yn cwmpasu solar, gwynt a storio ynni. Mae ein technoleg ffabrigo tanwydd niwclear yn canolbwyntio ar gynhyrchu cydrannau tanwydd niwclear safon uchel ar gyfer adweithyddion, gan sicrhau perfformiad, diogelwch ac effeithlonrwydd. Trwy ddefnyddio technolegau o’r radd flaenaf, ein bwriad yw gwella’r broses o ffabrigo tanwydd, gan ei gwneud hi’n bosib cynhyrchu cydosodiadau tanwydd mwy diogel a mwy effeithlon ar gyfer cynhyrchu pŵer, amddiffyn ac adweithyddion ymchwil.
Mae Tenet yn parhau’n ymroddedig i ddatblygu’r technolegau a ddefnyddir mewn cynhyrchu tanwydd niwclear. O uwch brofi deunyddiau i’r diweddaraf mewn dylunio cydosodiad tanwydd, rydym yn cyfuno datrysiadau arloesol er mwyn sicrhau bod ein cynhyrchion tanwydd yn diwallu safonau uchaf diogelwch ac effeithlonrwydd y diwydiant.
Gwerth degawdau o arbenigedd mewn prosiectau datgomisiynu niwclear
Mae gennym werth degawdau o arbenigedd mewn datgomisiynu niwclear o ganlyniad i weithio ar brosiectau cymhleth a ymdrinnir â datgomisiynu a chau cyfleusterau a gorsafoedd pŵer niwclear yn ddiogel. Mae ein tîm profiadol yn fedrus wrth reoli’r heriau technolegol, rheoleiddiol, a diogelwch sydd ynghlwm â datgomisiynu, gan sicrhau bod pob prosiect yn cael ei gynnal yn effeithlon ac i’r safonau uchaf.
Mae ein harbenigedd yn ymwneud ag amryw o weithgareddau datgomisiynu, gan gynnwys cydymffurfiaeth reoliadol, cael gwared ar wastraff, a glanhau’r cyfleuster. Rydym yn gweithio’n agos â chleientiaid i ddatblygu datrysiadau datgomisiynu pwrpasol sy’n sicrhau’r diogelwch gorau, lleihau effaith amgylcheddol, ac yn cydymffurfio â deddfwriaeth ac arferion gorau’r diwydiant.
Profiad diamheuol o gyflawni prosiectau datgomisiynu llwyddiannus
Mae gan Tenet hanes diamheuol o gyflawni prosiectau datgomisiynu niwclear llwyddiannus ar draws sawl sector, gan gynnwys amddiffyn a chynhyrchu pŵer. Mae ein cyfranogiad yn cynnwys nid yn unig y camau cynllunio a dylunio, ond hefyd gweithredu gweithgareddau datgomisiynu, gan sicrhau bod pob prosiect yn bodloni’r safonau diogelwch, amgylcheddol, a rheoliadol uchaf.
Gyda phrofiad ymarferol o reoli prosiectau datgomisiynu ar raddfa fawr, rydym yn deall y cymhlethdodau sydd ynghlwm ac yn cynnig datrysiadau ymarferol i’r sefyllfa. Mae ein hagwedd yn sicrhau bod prosiectau’n cael eu cwblhau’n ddiogel, yn brydlon, ac o fewn cyllideb, gan gyfrannu at yr ymdrech fyd-eang i leihau ôl troed amgylcheddol y diwydiant niwclear.

Adfer a chludo tanwydd
