Prentisiaethau yn Tenet

Sgroliwch i gael golwg

Gwybodaeth am y cynllun Mae ein Cynllun Prentisiaeth Radd wedi’i Achredu gan IET wedi’i ddylunio i feithrin y genhedlaeth nesaf o beirianwyr

llwybrau hyfforddiant a gyrfaoedd

Enillwch brofiad ymarferol wrth ymgymryd ag addysg ffurfiol a rhowch hwb i’ch gyrfa beirianneg

Mae ein prentisiaeth radd yn cynnig llwybr i ddod yn weithiwr proffesiynol medrus, lle byddwch yn ennill hyfforddiant amhrisiadwy wrth weithio, ynghyd â’ch cymwysterau academaidd.

Mae’r rhaglen wedi’i threfnu i gynnig gwybodaeth ddamcaniaethol a phrofiad ymarferol, gan sicrhau bod prentisiaid yn llwyr barod am heriau’r sectorau niwclear a pheirianneg.

Wrth i brentisiaid ddatblygu, cânt y cyfle i weithio ar brosiectau amrywiol ac meithrin amrywiaeth eang o sgiliau. Mae’r gymysgedd o ddatblygiad gyrfa a hyfforddiant yn gosod ein prentisiaid ar y trywydd i ddod yn arweinwyr yn eu meysydd.

Training and career paths
Llinell Amser

Mae ein prentisiaethau’n bum mlynedd o hyd, gan eich arwain drwy bob cam o’ch taith i ddod yn beiriannydd cymwys.

Mae ein prentisiaeth wedi’i hachredu gan IET yn cynnig amserlen glir ac iddi strwythur, gan ddatblygu o sgiliau sylfaenol i gymwysiadau peirianneg mwy datblygedig. Dros bum mlynedd, bydd prentisiaid yn ennill eu HNC, HND a Phrentisiaeth Peirianneg Niwclear Lefel 6, yn ogystal â BEng yn eu maes dewisol, gan eu rhoi mewn sefyllfa ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant niwclear. Mae ein tîm ymroddedig yn sicrhau bod gan brentisiaid bopeth sydd ei angen arnynt i lwyddo.

Rydym yn darparu cymorth parhaus drwy gydol y daith brentisiaeth, ac nid yw’n dod i ben ar ôl i’n prentisiaid gyflawni eu BEng; rydym yn cynnig cyfleoedd rheolaidd i ddysgu a datblygu wrth iddyn nhw ddatblygu yn eu gyrfaoedd, trwy gynnig drws agored i amrywiaeth eang o brosiectau a chyrsiau hyfforddiant.

Mae ceisiadau ar gyfer ein Cynllun Prentisiaethau 2026 bellach yn agor!

Os ydych yn gyfathrebwr clir gyda sgiliau mathemateg cryf a pharodrwydd go iawn am beirianneg, gallai hwn fod eich cam mawr nesaf!

Bydd angen o leiaf gradd 5 mewn Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth yn y TGAU, ac mae’n rhaid bod ar y trywydd iawn i ennill (neu wedi ennill) gradd B neu Rhagoriaeth mewn pwnc perthnasol yn y coleg. Mae ein prentisiaeth yn heriol ac yn werth chweil – yn cyfuno profiad ymarferol gyda hyfforddiant manwl i’ch helpu i ddatblygu’r sgiliau a’r hyder i ffynnu fel peiriannydd.

Ein cynlluniau prentisiaethau:

Prentisiaeth Lloegr – wedi’i lleoli yn ein swyddfa yn Warrington. Gweld disgrifiad y swydd

Prentisiaeth Cymru – wedi’i lleoli yn ein swyddfa ar Ynys Môn. Gweld disgrifiad y swydd

ein prentisiaid

Bywyd prentis

Profwch daith brysur a foddhaol wrth i chi ddatblygu o fyfyriwr i beiriannydd medrus.

Cwestiynau cyffredin

Rydym yn darparu arweiniad drwy gydol y broses gwneud cais, ac mae ein hadran Cwestiynau Cyffredin yn rhoi atebion i gwestiynau cyffredin ynghylch y rhaglen a gofynion.
Byddwch yn ennill cyflog llawn o’r diwrnod cyntaf, a hynny wrth elwa ar gymwysterau, gwybodaeth a sgiliau gwerthfawr mewn coleg. Wedi i chi orffen eich prentisiaeth radd, yn ogystal ag ennill eich BEng, byddwch â 4 mlynedd o brofiad gwaith yng nghwmni peirianwyr cymwys yn eich meddiant!
Na – bydd Tenet yn talu eich costau addysg yn llawn, o’ch HNC Lefel 4 i’ch BEng Lefel 6!
Mae angen i chi fod ag o leiaf Lefel 5 mewn TGAU Mathemateg (yn ddelfrydol mewn gwyddoniaeth a Saesneg hefyd). O ran eich cymhwyster Lefel 3, nid oes ots gennym ni os ydych wedi ymgymryd â’r llwybr Lefel A, BTEC neu Lefel T, ar yr amod eich bod ar y trywydd i gyflawni/eisoes wedi cyflawni gradd B. Mae pynciau dymunol yn cynnwys peirianneg, mathemateg a gwyddoniaeth, ond cyn belled â’ch bod yn cyflawni graddau da ac yn gallu dangos brwdfrydedd dros beirianneg, byddwn yn ystyried eich cais ni waeth beth yw eich pynciau dewisol!
Ar ôl i chi gyflwyno eich cais, os ydych yn ymddangos yn unigolyn addas i ni, byddwch yn derbyn gwahoddiad i gyfweliad wyneb yn wyneb gyda’n rheolwyr peirianneg. Os yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddod draw a chyfarfod rhagor o’r tîm mewn cyfweliad terfynol.
Cofiwch brawf ddarllen eich cais cyntaf – nid oes unrhyw recriwtiwr yn hoff o weld enw eu cwmni wedi’i gamsillafu! Paratowch yn drylwyr ar gyfer eich cyfweliadau drwy ymchwilio Tenet, a defnyddiwch y dull STAR i ddangos eich cyflawniadau a pharatowch ambell i gwestiwn difyr i’n cyfwelwyr.

Dewch i ni weithio gyda’n gilydd

Gwneud cais am ein Cynllun Prentisiaeth 2026