Peirianneg ar draws sawl sector
Cyfoethogi niwclear
Datrysiadau arloesol i ddyfodol tanwydd niwclear. Mae ein harbenigedd mewn cyfoethogi niwclear yn cynnwys technoleg arloesol a gwerth degawdau o brofiad. Mae Tenet yn darparu datrysiadau pwrpasol i heriau’r cylch tanwydd, gan sicrhau diogelwch, effeithlonrwydd, a chynaliadwyedd yn y sector pwysig hwn.
Digomisiynu niwclear
Datrysiadau arloesol i heriau datgomisiynu. Mae Tenet yn darparu arbenigedd o ran rheoli datgomisiynu cyfleusterau niwclear yn ddiogel. Mae ein datrysiadau yn blaenoriaethu diogelwch, cydymffurfiaeth, ac effeithlonrwydd, wrth fynd i’r afael â heriau technegol cymhleth a gofynion rheoleiddio.
Cynhyrchu tanwydd niwclear
Arbenigedd mewn cynhyrchu tanwydd niwclear diogel ac effeithlon. Mae ein tîm yn darparu datrysiadau arloesol i ffabrigo tanwydd niwclear, gan sicrhau rhagoriaeth weithredol a chadw at safonau llym diogelwch a rheoleiddio.
Safle niwclear newydd
Llywio dyfodol pŵer niwclear. Mae Tenet yn cynnig cymorth cynhwysfawr i brosiectau safleoedd niwclear newydd, gan sicrhau diogelwch, dibynadwyedd, ac effeithlonrwydd. Mae ein harbenigedd amlddisgyblaethol yn ein galluogi i fodloni’r heriau o ddatblygu pŵer niwclear modern.
Ynni gwyrdd ac adnewyddadwy
Gwella datrysiadau ynni gwyrdd ar gyfer dyfodol cynaliadwy. Mae Tenet yn cynorthwyo prosiect ynni adnewyddadwy gyda dyluniadau arloesol ac arbenigedd peirianneg. O’r cam syniad i’r cam cwblhau, darparwn ddatrysiadau sy’n arwain lleihad mewn carbon ac yn hyrwyddo cynaliadwyedd.
Astudiaethau achos
Astudiaethau achos sy’n ein gwneud yn falch
Vulputate placerat sagittis efficitur amet ullamcorper habitant risus..
Ein harbenigedd
Cynnig datrysiadau peirianneg arloesol drwy ragoriaeth amlddisgyblaethol
Rydym yn canolbwyntio ar gyfuno technolegau ynni adnewyddadwy â’n datrysiadau peirianneg, gan gyfrannu at y pontio i ddyfodol carbon isel. Mae ein harbenigedd mewn ynni adnewyddadwy yn ymwneud â solar, gwynt a storio ynni. Mae ein technoleg cynhyrchu tanwydd niwclear yn canolbwyntio ar gynhyrchu cydrannau tanwydd niwclear safon uchel ar gyfer adweithyddion, gan sicrhau perfformiad, diogelwch, ac effeithlonrwydd. Trwy ddefnyddio technolegau o’r radd flaenaf, ein bwriad yw gwella’r broses o gynhyrchu tanwydd, gan alluogi cynhyrchu cydosodiadau tanwydd mwy diogel a mwy effeithlon er mwyn gwarchod, i gynhyrchu pŵer, ac ar gyfer adweithyddion ymchwil.
Mae Tenet yn parhau’n ymroddedig i ddatblygu’r technolegau a ddefnyddir mewn cynhyrchu tanwydd niwclear. O uwch brofi deunyddiau i’r diweddaraf mewn dylunio cydosodiad tanwydd, rydym yn cyfuno datrysiadau arloesol er mwyn sicrhau bod ein cynhyrchion tanwydd yn diwallu safonau uchaf diogelwch ac effeithlonrwydd y diwydiant.
Mae Tenet yn parhau’n ymroddedig i ddatblygu’r technolegau a ddefnyddir mewn cynhyrchu tanwydd niwclear. O uwch brofi deunyddiau i’r diweddaraf mewn dylunio cydosodiad tanwydd, rydym yn cyfuno datrysiadau arloesol er mwyn sicrhau bod ein cynhyrchion tanwydd yn diwallu safonau uchaf diogelwch ac effeithlonrwydd y diwydiant.


Ein llywodraethu, diogelwch a chynaliadwyedd
Blaenoriaethu diogelwch, uniondeb, a chyfrifoldeb amgylcheddol ym mhob prosiect
Mae Tenet wedi ymroddi i gynnal y safonau llywodraethu a diogelwch uchaf wrth integreiddio cynaliadwyedd i’n gweithrediadau. Rydym yn cydymffurfio â rheoliadau llym y diwydiant a gofynion penodol cleientiaid i sicrhau bod pob prosiect yn ddiogel, yn ddibynadwy, ac yn ystyriol o’r amgylchedd. Mae ein ffocws ar leihau carbon, ar fentrau ynni adnewyddadwy, ac ar gyfrifoldeb cymdeithasol hirdymor yn adlewyrchu ein hymroddiad i greu dyfodol cynaliadwy i’r diwydiannau niwclear a pheirianneg.