15.1.25
Mae’r gydnabyddiaeth glodfawr hon gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET) yn adlewyrchu safon ragorol ein rhaglen brentisiaeth a’n hymrwymiad i feithrin y genhedlaeth nesaf o beirianwyr.
Mae’n dyst i waith caled ein tîm a strwythur cadarn ein cynllun, sy’n cyfuno profiad ymarferol â dysg academaidd; y cyfan wedi’u dylunio i baratoi peirianwyr y dyfodol ar gyfer gyrfaoedd llewyrchus yn y diwydiannau niwclear a pheirianneg.
Nid dyna’r diwedd – mae ceisiadau ar gyfer ein Cynllun Gradd-brentisiaeth ar agor nawr!
Os ydych yn barod i gychwyn eich gyrfa mewn peirianneg, dyma’ch cyfle i ymuno â rhaglen wedi’i hachredu gan IET sy’n cynnig cyfleoedd hollol unigryw ar gyfer twf, mentoriaeth a datblygiad proffesiynol.
I wneud cais, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol yn cynnwys manylion am eich rôl ddymunol at apprenticeships@tenetconsultants.co.uk.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 7fed Ebrill 2025
