Tenet Tash-tastig!

Newyddion
Thu 13 Mar 2025

29.11.24

Wrth i ddiwedd Tashwedd agosáu, rydym yn falch o rannu’r newydd fod Tîm Tashtastig Tenet wedi cwblhau eu taith Tashwedd, a hefyd wedi mynd gam ymhellach, gan ragori ar eu targed i godi £1,250!

O dyfu mwstashis trawiadol iawn, i gwblhau’r milltiroedd yn yr her “Make a Move”, mae ein tîm wedi mynd y filltir ychwanegol i godi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer iechyd dynion.

Ond, nid y tash yw‘r unig beth pwysig – mae hefyd yn bwysig mynd i’r afael â’r materion difrifol: canser y prostad, canser y ceilliau, ac iechyd meddwl. Mae pob ceiniog a gesglir yn helpu dynion i fyw bywydau iachach a hirach.

Ni fyddem wedi gallu gwneud hyn heb eich cefnogaeth chi, ac mae amser o hyd i wneud gwahaniaeth! Os ydych eisiau ein helpu i gynyddu ein cyfanswm hyd yn oed yn fwy, mae’n dal yn bosib cyfrannu, yma: https://lnkd.in/eEet9czX

Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi rhoi, wedi ein hannog, ac wedi dathlu ein blew wyneb (digon doniol mewn rhai achosion)!

Gyda phrosiect mewn golwg?

Dewch i ni weithio gyda’n gilydd.

Dewch i ni weithio gyda’n gilydd