19.9.24
Yn Tenet, rydym yn cynnig datrysiadau argraffu 3D arloesol er mwyn mynd i’r afael ag amrywiaeth eang o heriau peirianneg. P’un a ydych awydd prototeipio cysyniadau newydd neu eisiau profi cydrannau cyn y cynhyrchiad terfynol, gallwn ni eich helpu!
Llwyddiant Diweddar: Chwaraeodd ein gallu yn y maes argraffu 3D ran allweddol ym mhrosiect SRP Sellafield Ltd., lle gwnaethom greu rolwyr prototeip i brofi gosodiadau a swyddogaethau. Rhoddodd hyn hyder i dîm y prosiect cyn symud ymlaen at gynhyrchu ar raddfa lawn yn defnyddio dur gloyw.
Nodweddion ein cyfleuster Argraffu 3D:
– Arwynebedd argraffu 360mm x 360mm x 360mm
– Deunyddiau:: PLA, PETG, Flex, PVA, PC, PP, CPE, PVB ABS, ASA, HIPS, PA, a mwy
– Argraffiadau amryliw ar gael
– Argraffu deunyddiau cyfansawdd gyda chryfhau dur mewnol
– Profi mewnol yn ein dyblygiad blwch menyg i gael canlyniadau manwl-gywir
– Ffactorau ergonomig a dynol yn cael eu hystyried â manwl-gywirdeb
Gadewch i ni eich helpu i ddod â’ch dyluniadau’n fyw: Cysylltwch â’n tîm heddiw: 3Dprinting@tenetconsultants.co.uk


