Cipio Platinwm!

Newyddion
Thu 13 Mar 2025

27.11.24

Braf iawn yw cael cyhoeddi bod Tenet wedi llwyddo i gael aelodaeth Blatinwm yng Nghynllun Archwilio Cyflogwyr 2024-25 The 5% Club.

Mae’r gydnabyddiaeth glodfawr hon yn tynnu sylw at ein hymrwymiad diysgog i fuddsoddi yn ein pobl drwy fentrau “ennill a dysgu” fel Prentisiaethau, Cynlluniau i Raddedigion, a Lleoliadau Noddedig i Fyfyrwyr.

Mae cyflawni statws Platinwm yn brawf o dalent ac ymroddiad anhygoel ein tîm a’n cred mai buddsoddi mewn pobl yw’r allwedd i lwyddiant hirdymor. Trwy’r mentrau hyn, rydym yn arfogi unigolion â sgiliau hanfodol, yn ogystal â llunio dyfodol ein gweithlu a chyfrannu at yr economi ehangach.

Rydym yn falch o fod ymhlith dros 1,100 o gyflogwyr blaengar yn The 5% Club, yn hyrwyddo cyfleoedd am ddatblygiad proffesiynol a chynhwysiant. Gyda’n gilydd, rydym yn ysbrydoli newid ac yn llunio llwybrau at lwyddiant ar gyfer y genhedlaeth nesaf.

Gyda phrosiect mewn golwg?

Dewch i ni weithio gyda’n gilydd.

Dewch i ni weithio gyda’n gilydd