Ysbrydoli Peirianwyr y Dyfodol
Pam peirianneg? Mae peirianneg yn cynnig cyfleoedd dirifedi i arloesi, datrys problemau, a chael effaith wirioneddol ar y byd.
Ymgysylltu ag ysgolion
Rydym yn credu mewn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr a datryswyr problemau. Fel rhan o’n hymrwymiad i addysg, ymgysyllta Tenet ag ysgolion a sefydliadau addysgol lleol i feithrin diddordeb mewn pynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, a Mathemateg).
Mae aelodau ein tîm yn cymryd rhan reolaidd mewn rhaglenni allgymorth, ymweld ag ysgolion lleol i roi sgyrsiau, gweithdai, ac arweiniad gyrfa, gan helpu myfyrwyr i ddeall y cyfleoedd cyffrous all gyrfa mewn peirianneg gynnig.
Mae partneriaethau Tenet ag ysgolion hefyd yn cynnwys darparu mentora a chefnogi cystadlaethau STEM i sbarduno ymhellach chwilfrydedd a brwdfrydedd dros y maes. Trwy’r ymdrechion hyn, ein bwriad yw meithrin cysylltiadau parhaol ag ysgolion, gan greu cyfleoedd sy’n ysbrydoli, addysgu, ac yn llywio dyfodol talent peirianneg.
Am i ni ymweld â’ch ysgol chi?
Rydym yn cynnig amgylchedd bywiog lle all darpar beirianwyr dyfu a datblygu eu sgiliau. Fel rhan o’n tîm, byddwch yn gweithio ar brosiectau cyffrous, yn ennill profiad ymarferol, ac yn derbyn mentora gan arbenigwyr y diwydiant. Ymunwch â ni i ddechrau ar eich gyrfa beirianneg a chael effaith wirioneddol yn y meysydd ynni adnewyddadwy a niwclear.
Mae ein prentisiaethau yn arobryn
Yn Tenet, mae ein cynllun prentisiaeth radd wedi’i achredu gan IET yn cynnig y gorau o’r byd addysg a phrofiad ymarferol. Derbynia brentisiaid fentora un i un gan beirianwyr profiadol wrth weithio ar brosiectau byw, gan ennill profiad gwerthfawr ar draws y meysydd mecanyddol, trydanol, a dylunio systemau rheoli.
Mae’r rhaglen, a ddarperir mewn partneriaeth â Choleg Wigan a Leigh, yn cyfuno astudiaeth academaidd â hyfforddiant ymarferol yn ein swyddfeydd yn Warrington a Gogledd Cymru. Paratoir prentisiaid at ddatblygiad gyrfa hirdymor, gyda chyfleodd i gamu i uwch swyddi technegol ar ôl cwblhau’r cynllun.
Ein hymgeisydd arferol
Mae’r myfyriwr wedi cwblhau ei gymhwyster Lefel 3 ac yn chwilio am
brentisiaeth radd.
1
4 diwrnod yr wythnos yn gweithio i Tenet ar brosiectau peirianneg go iawn.
2
4 diwrnod yr wythnos yn gweithio i Tenet ar brosiectau peirianneg go iawn.
3 a 4
4 diwrnod yr wythnos yn gweithio i Tenet ar brosiectau peirianneg go iawn.
5
a thu hwnt
Y rhan fwyaf gwerthfawr o’m prentisiaeth yw cael cefnogi prosiect o’r cam comisiynu hyd at weithredu. Mae’r profiad a’r wybodaeth rwyf wedi’u hennill yn Tenet yn unigryw – rwy’n gwybod nad yw prentisiaid eraill yn fy mlwyddyn mewn sefydliadau eraill wedi cael yr un cyfleoedd.
Prentis Dylunio Mecanyddol Blwyddyn 4