Mae pawb yn arweinydd
Rydym yn credu bod pawb, ni waeth beth yw eu rôl na’u profiad, gyda’r gallu i fod yn arweinydd. Mae ein rhaglen brentisiaeth radd wedi’i hachredu gan IET wedi’i dylunio i feithrin y meddylfryd arweinyddiaeth hwn o’r cychwyn cyntaf.
Anogir prentisiaid i gymryd cyfrifoldeb dros waith eu hunain, cyfrannu syniadau, a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i arwain yn eu maes. Trwy fentora, profiad ymarferol, ac amgylchedd tîm cefnogol, rydym yn grymuso prentisiaid i fagu hyder, cymryd cyfrifoldeb, a datblygu i ddod yn arweinwyr y dyfodol yn y sector peirianneg.

Mae ein prentisiaid wrth eu bodd â’u gwaith
Mae ein prentisiaid yn frwd dros eu gwaith a’r cyfleoedd a gynigia i dyfu a datblygu. Gan weithio ar brosiectau byw a go iawn yn unig, maent yn llewyrchu mewn amgylchedd cydweithredol lle gyfrannant at brosiectau cyffrous a heriol, gan ennill profiadol ymarferol wrth ddysgu gan arbenigwyr yn y maes.
Mae ein prentisiaid yn gwerthfawrogi’r sgiliau ymarferol y maent yn eu meithrin, y mentora y maent yn ei dderbyn, a’r cyfle i chwarae rhan weithredol wrth lywio dyfodol y diwydiant peirianneg. Y brwdfrydedd a’r ymroddiad yma sy’n llywio ein llwyddiant ac yn meithrin tîm gweithgar a llawn cymhelliant.
Llwybrau gyrfa
Rydym yn credu mewn annog twf gyrfa hirdymor, ac mae ein rhaglen brentisiaeth yn cynnig llwybr clir i ddatblygu. Mae prentisiaid yn dechrau drwy ennill profiad ymarferol a gwybodaeth dechnegol, ac wrth iddyn nhw ddatblygu, cânt y cyfle i arbenigo mewn rolau dylunio, rheoli prosiectau, neu uwch beirianneg.
Gyda chymorth a mentora pwrpasol ym mhob cam, darparwn ein prentisiaid â’r sgiliau a’r profiad sydd eu hangen arnynt i lewyrchu ac i feithrin gyrfa lwyddiannus yn y diwydiannau peirianneg a niwclear.

Eich Taith fel Prentis
Mae ein hymgeiswyr nodweddiadol wedi cwblhau cymhwyster Lefel 3 ac yn chwilio am brentisiaeth radd.
Mae’r llwybr hwn yn dangos sut mae’n gweithio yn Lloegr. Yn Nghymru, mae gennym lwybr pwrpasol sy’n edrych ychydig yn wahanol ac sy’n cael ei gynnig gyda Choleg Menai a Phrifysgol Bangor. Cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy.
1
4 diwrnod yr wythnos yn gweithio i Tenet ar brosiectau peirianneg go iawn.
2
4 diwrnod yr wythnos yn gweithio i Tenet ar brosiectau peirianneg go iawn.
3 a 4
4 diwrnod yr wythnos yn gweithio i Tenet ar brosiectau peirianneg go iawn.
5
a thu hwnt
E23 cyflenwad nitrogen ychwanegol

Y rhan fwyaf foddhaol o fy mhrentisiaeth oedd cefnogi prosiect o’r cam comisiynu i’r cam gweithredu. Mae’r profiad a’r wybodaeth rwyf wedi eu hennill yn Tenet yn unigryw - rwy’n gwybod nad yw prentisiaid eraill yn fy mlwyddyn wedi cael yr un profiadau.
Peiriannydd Dylunio Mecanyddol Blwyddyn 4