Ein proses

Ein meddalwedd ac adnoddau
Yn Tenet, rydym yn defnyddio meddalwedd uwch ac adnoddau arloesol i sicrhau bod ein dyluniadau yn fanwl gywir, yn effeithlon, ac yn arloesol. Mae gan ein tîm feddalwedd diweddaraf y diwydiant i fynd i’r afael â heriau peirianneg cymhleth. Mae’r adnoddau hyn yn cynorthwyo ein hystod lawn o wasanaethau peirianneg, o’r cam dylunio cysyniadol hyd at y cam profi a chyflawni terfynol. Drwy ddefnyddio’r adnoddau hyn yn ein proses ddylunio, gallwn gynnig datrysiadau o safon uchel i’n cleientiaid, yn ogystal â’r lefelau diogelwch a pherfformiad gorau mewn amgylcheddau hynod reoledig.
O feddalwedd efelychu a modelu 3D i adnoddau rheoli prosiect a dadansoddi arbenigol, rydym yn sicrhau bod pob prosiect yr ydym yn ymgymryd ag ef yn elwa ar y datblygiadau technolegol mwyaf modern.


Blwch Menyg ac Argraffu 3D
Rydym yn manteisio ar arloesedd drwy dechnoleg argraffu 3D, sy’n ein galluogi i greu prototeipiau o gysyniadau peirianneg newydd ac arddangos cydrannau prawf cyn y gweithgynhyrchu terfynol. Mae ein galluoedd argraffu 3D, sy’n cynnwys amrywiaeth o ddeunyddiau, yn sicrhau bod rhannau’n cael eu hargraffu’n fanwl gywir ac yn hynod gryf. Boed ar gyfer dilysu dyluniad, cyflwyno prawf o gysyniad, neu gryfhau cydrannau drwy argraffu deunyddiau cyfansawdd gydag atgyfnerthiadau dur mewnol, rydym yn darparu datrysiadau ar gyfer y byd go iawn.
Yn ogystal ag argraffu 3D, mae gennym hefyd replica o flwch menyg, sy’n ein galluogi i roi’r systemau a’r rhannau hyn dan brawf mewn amgylcheddau rheoledig. Mae’r cyfuniad hwn o dechnoleg uwch a phrofion ‘byd go iawn’ yn sicrhau bod ein dyluniadau’n ddibynadwy a diogel, gan gefnogi ein hymrwymiad i ddarparu datrysiadau dibynadwy ac o safon uchel ar gyfer pob prosiect.
Yn cynnig arbenigedd i bob prosiect
Cipolwg ar ein gwaith
Ein dull gweithio
Drwy gyfathrebu clir ac ymrwymiad i welliant parhaus, rydym yn gweithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael â heriau cymhleth a hyrwyddo arloesedd yn y byd peirianneg.
